Ystafell gyfarfod newydd, cegin a thoiled cyhoeddus
yn y pentref?
Gan fod yr atgyweiriadau adeiladol i dwr Eglwys
Sant Cadog yn awr ar fin cychwyn, rydym yn troi ein sylw at godi
arian ar gyfer newid y tu mewn i’r eglwys i gynnwys ystafell
gyfarfod / cegin yn y rhan i’r chwith o’r prif fynedfa,
a thoiled i’r anabl yn rhan waelod isaf y twr.
Bydd yr ystafell gyfarfod yn dyblu fel cegin
gyda’r sinc a’r offer yn guddiedig gan gloriau desg
/ biwrô colfachog. Bydd adeiladwaith yr ystafell gyfarfod
yn cynnwys wal solet o bren i’r lefel ddado gyda sgrîn
o
wydr uwchben, gan ei rhannu o weddill yr eglwys ac felly’n
sicrhau ataliad unrhyw swn fel na ellir clywed
gweithgareddau’r ystafell gyfarfod yn yr eglwys ei hun.
Bydd llofft / galeri dros yr ystafell gyfarfod,
gyda grisiau yn arwain i’r llofft a leolir yn erbyn y wal
sydd
gyferbyn â’r prif fynedfa. Yn ymgorfforedig yn y llofft
/ galeri bydd panel o wydr gwydn iawn wedi ei osod yn sownd i’r
ffenestr a fydd yn ffurfio wal ochr y llawr uwchben.
Bwriedir gosod i mewn system newydd o wresogi
a bwyler yn ogystal ag ail-weiro’r eglwys gyfan.
Bydd y prif ddrysau ffrynt a’r ochr sy’n
arwain i mewn i’r eglwys yn cael eu newid er mwyn croesawu’r
anabl. Mae’n bosibl y symudir yr organ gan roi organ trydanol
llai ei faint yn ei le a leolir ar y wal uwchben
y llofft /galeri newydd, gan arddangos pibau’r organ mawr.
A fyddai eich mudiad yn debygol o ddefnyddio
ystafell gyfarfod / cegin a thoiled pe darperir y cyfleusterau
yma yn Eglwys Sant Cadog.? Rydym yn ceisio codi arian trwy wneud
cais am Grant Pobl a Lleoedd o’r Loteri tuag at gwrdd â
chostau’r gwaith yma, ond mae angen prawf arnom y bydd y
gymuned yn barod i ddefnyddio’r cyfleusterau yma.
A wnewch chi ysgrifennu llythyr os gwelwch chi’n
dda at y Ficer, y Parchg Michael Cottam, Y Ficerdy. Heol Gwallter,
Llangadog. SA19 9AE yn ei gynghori ef y buasech yn defnyddio’r
ystafell gyfarfod, y gwerthfawrogir yn fawr iawn y ddarpariaeth
o doiled gan y gymuned am fod yr eglwys ar agor bob dydd ac am
na cheir unrhyw doiled cyhoeddus arall yn y pentref, ac y byddai’r
ychwanegiad o’r gegin yn cynyddu’r math o achlysur
a digwyddiad y gellid defnyddio’r eglwys iddi. A oes gennych
unrhyw awgrymiadau a ddylid eu hystyried gennym ?
Diolch yn fawr iawn i chi,
Cydlynydd Cronfa Atgyweirio Eglwys Sant Cadog.