Newyddion
Gwyl Archaeolegol Garn Goch

Hoffwn eich gwahodd chi i fod yn rhan o wyl cenedlaethol ‘British Archaeology’
sydd yn cael ei gynnal ar fryngaer Garn Goch, sef bryngaer mwyaf Cymru ac hefyd yn edrych dros Ddyffryn Tywi
ar benwythnos yr 31ain o Orffennaf a’r 1af o Awst. Fe fydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ynghyd ag
awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn trefnu a chynnal ystod eang o weithgareddau dros y penwythnos,
gyda chymorth tir feddianwyr Garn Goch a thrigolion pentref Bethlehem.
Bydd y daith yn cychwyn yn Neuadd Pentref Bethlehem ac yn eich arwain ar hyd llwybr amser
o amgylch y bryngaer. Ar hyd y daith, fe gewch gyfle i glywed hanesion yr ardal ac i ddysgu am dirwedd Dyffryn
Tywi. O fewn gwrthglawdd gerrig allanol y fryngaer, bydd arddangoswyr yn dangos sut mae sgiliau crefft wedi
newid dros amser. Bydd hefyd cyfle i blant ac oedolion chwilota’r ardal drwy gymryd rhan mewn ‘helfa
hanesyddol’.
Am fwy o wybodaeth am brosiect ‘Chwilota’r Tywi’ neu am yr wyl ei hun, cysylltwch
ag Alice Pyper ar 01558-823131 neu drwy www.dyfedarchaeology.org.uk
Cynllun Partneriaeth Tirwedd sy’n costio £2.4 miliwn yw Tywi Afon yr Oesoedd,
a arweinir gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ei nod yw gwarchod tirwedd, bioamrywiaeth a hanes yr ardal, ynghyd â
chreu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri (£1.5 miliwn) a Chynllun Datblygu
Gwledig Cymru 2007-2013 (£557,378) a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop
ar gyfer Datblygu Gwledig. Hefyd mae’r prosiect wedi derbyn cyllid gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a chefnogaeth
oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Menter Bro Dinefwr.
Mae tîm y prosiect wedi’i leoli yng Nghanolfan Tywi, Fferm Dinefwr, Llandeilo.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’r tîm drwy anfon neges e-bost at post@tywiafonyroesoedd.org.uk
neu drwy ffonio 01558-824271. Ewch i dudalennau’r prosiect ar y wefan hon: www.sirgar.gov.uk
CFfI Llangadog - CCB
Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CFfI Llangadog ar nos Fercher 14eg o Orffennaf yng nghlwb rygbi Llangadog
am 7:30yh. Croeso cynnes i aelodau, arweinwyr a ffrindiau’r clwb ymuno yn y trafodaethau.
CFfI Llangadog
Llongyfarchiadau mawr i aelodau CFfI Llangadog a ddaeth yn drydydd
ar lefel Cymru yng nghystadleuaeth dramau’r mudiad. Yn sgil
hyn, cynhelir noson o ddramau ar nos Sadwrn 17eg o Ebrill yn neuadd
Gymunedol Llangadog i ddechrau am 7.30yh. Bydd dau glwb arall yn
perfformio eu dramau hwythau a gobeithir am noson ddifyr iawn. Yn
ragrybudd, gan mai CFfI Llangadog fydd yn stiwardio Rali CFfI Sir
Gâr eleni, a gynhelir ar 8/5/10, gwerthfawrogir unrhyw gymorth
i stiwardio ar y dydd. Os oes gennych awydd i helpu, cysylltwch
ag ysgrifenyddes y clwb, Angharad Rees ar 07795-164139.
Llanymddyfri: Camau Trwy Hanes
Cyfle i ymchwilio i dreftadaeth leol ac i gyfrannu’ch
hanesion a gwybodaeth eich hun
Ddydd Sadwrn 27 Chwefror, bydd cyfle cyffrous i ymchwilio i hanes
a threftadaeth y dirwedd o gwmpas Llanymddyfri, a hynny yng nghlydwch
cyfforddus Gwesty’r Castell, Llanymddyfri. Cynhelir y diwrnod
hwn i’r gymuned gan Geoparc y Fforest Fawr lle y gwahoddir
pobl leol i fwynhau arddangosfa dreftadaeth ac i drafod eu hanesion
a’u hatgofion eu hunain sy’n helpu i olrhain edau hanes.
Ar hyd yr oesoedd man cyfarfod fu Llanymddyfri i lwybrau hynafol
sy’n dynodi themâu yn ei hanes. O bobl yr Oes Haearn
i’r goresgynwyr Rhufeinig ac arglwyddi a thywysogion y canol
oesoedd, hyd at hanes ffermio, porthmona a marchnadoedd a rheilffordd
Calon Cymru.
Mae’r digwyddiad 27 Chwefror yn rhan o gynllun i ddathlu
hanes y cymunedau yng nghyffiniau Llanymddyfri. Amcan y prosiect
yw cynyddu gwerth treftadaeth i’r cymunedau lleol a’r
sector twristiaeth. Mae Creu-ad: Dehongli Treftadaeth a Trysor yn
trefnu’r diwrnod ar ran Geoparc y Fforest Fawr. Cyn y digwyddiad,
byddant yn cysylltu ag unigolion a grwpiau lleol i sicrhau eu cyfraniad.
27 Chwefror, bydd pobl yn cael eu hannog i siarad am eu hanesion
sy’n gysylltiedig â’r dirwedd ac i ffeirio atgofion.
Bydd yr awyrgylch yn sionci wrth i’r cyfarwydd, Esyllt Harker,
eich helpu i ddod â’r straeon hyn yn fyw a bydd yr artist
Lynne Denham yn gweithio â phobl leol i greu map sy’n
tarddu o eiriau, delweddau a ffotograffau.
Ochr yn ochr â’r cyfle i roi’ch hoff leoliadau
ar y map, bydd hefyd arbenigwyr wrth law, mapiau hanesyddol a digidol
o ardal Llanymddyfri a chofnodion archeolegol yr ardal i chi edrych
arnynt.
Mae Camau trwy Hanes yn eich gwahodd i ddod â rhywbeth sy’n
eich atgoffa o’r dirwedd leol a’i gorffennol neu’i
phresennol. Gall fod yn ddarn carreg sy’n cael sylw’r
daearegwyr sydd yno neu ffotograff o hoff dirwedd leol a allai awgrymu
stori i’r archeolegwyr arbenigol. Bydd arbenigwyr wrth law
i drafod pob math o wrthrychau a sgwrsio am eu hanes. Does wybod
beth a ddaw i’r golwg.
Bydd y diwrnod yn dechrau am 10 y bore gyda choffi a chyfle i glywed
mwy am y prosiect. Yn ystod y prynhawn, bydd sgyrsiau byrion gan
gynnwys cyfle i glywed gan Alan Bowring, Swyddog Datblygu Geoparc
y Fforest Fawr. Yn ôl Alan, “Mae daeareg wedi effeithio
ar bron pob agwedd ar ein hanes a gallwn ymfalchïo bod yr ardal
hon wedi derbyn cydnabyddiaeth arbennig fel Geoparc Ewropeaidd a
Byd-eang. Fodd bynnag, mae a wnelo Geoparc â mwy na chreigiau’n
unig; mae a wnelo â’r bobl sydd wedi byw a gweithio
yn y dirwedd dros filoedd o flynyddoedd. Mae eu hanes nhw’n
bwysig i ni hefyd.”
Peidiwch â cholli’ch cyfle. Dewch i ymuno â ni,
hyd yn oed os mai dim ond rhyw flas bach ar y diwrnod a gewch chi
trwy gael cip sydyn ar yr arddangosfeydd a drefnir gan grwpiau lleol.
Cadwch lygad yn agored am bosteri a thaflenni a fydd yn rhoi manylion
am y diwrnod.
Am fwy o wybodaeth am ‘Llanymddyfri: Camau trwy Hanes’,
cysylltwch ag Alan Bowring, Swyddog Datblygu Geoparc y Fforest Fawr
ar 01874-620415
CFfI Llangadog
Llongyfarchiadau mawr i aelodau CFfI Llangadog a fu wrthi’n
cystadlu yn Eisteddfod CFfI Cymru yn Llandudno ar ddydd Sadwrn 21ain
o Dachwedd – Mared Dafydd – adrodd dan 16oed - 2ail;
ensemble lleisiol – 1af; cân bop – 3ydd a’r
cor – 3ydd. Cynhaliwyd gyngerdd hwylus y clwb ar nos Wener
27ain o Dachwedd lle dangosodd amryw o’r aelodau eu talentau
i’r gymuned. Llywydd y noson oedd Mr Gareth Jones, Olchfa
a chafwyd araith bwrpasol iawn ganddo am hanes y clwb. Cyflwynwyd
siec i Ambiwlans Awyr Cymru a thusw o flodau yr un i Mrs Nia Clwyd
a Mrs Gillian Thomas am eu gwaith hyfforddi yn arwain at eisteddfod
CFfI Sir Gâr ac Eisteddfod CFfI Cymru. Bydd y clwb yn cefnogi’r
aelodau hynny sydd yn ran o gyflwyniad Les Miserables yn Ysgol Tre-Gib
ar nos Wener 11eg o Ragfyr. I sicrhau lle drwy’r clwb, cysylltwch
â Angharad Rees ar 07795164139. Yn ragrybudd, cynhelir gyrfa
chwist y clwb yn neuadd Llangadog ar nos Lun 21/12/09.
CFfI Llangadog
Bu mis Hydref yn fis prysur iawn i holl aelodau’r clwb wrth
iddyn nhw gystadlu yn Eisteddfod y Sir am 3 noswaith. Estynnir llongyfarchiadau
mawr i’r rheiny a fu’n cystadlu am eu brwdfrydedd a’u
safon dda ar y llwyfan ac yn ysgrifenedig.
Cynhaliwyd gwrdd diolchgarwch yng Nghapel Bethlehem
ar nos Wener, 23ain o Hydref ac fe wasanaethwyd gan y Parchg Guto
Prys ap Gwynfor.
Mae’r aelodau yn cadw eu hun yn brysur ac estynnir pob lwc
i’r aelodau hynny sydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth siarad
cyhoeddus Saesneg ar ddydd Sadwrn 14eg o Dachwedd yn ysgol gynradd
Nantgaredig. Rhaid hefyd estyn pob lwc i’r aelodau hynny sydd
yn cystadlu yn Eisteddfod Cymru yn Venue Cymru Llandudno, ar ddydd
Sadwrn 21ain o Dachwedd. Dylir llongyfarch CFfI Llangadog ar gael
4eitem yn cynrychioli’r sir ar lefel Cymru – adrodd
dan 16 oed, ensembl lleisiol, can bop a’r cor. – da
iawn i bawb!
Cynhelir cyngerdd CFfI Llangadog ar nos Wener,
27ain o Dachwedd yn neuadd Llangadog. Bydd y noswaith yn dechrau
am 7:30 yh a pris mynediad fydd £5 i oedolion a £2 i
blant. Croeso cynnes i bawb!
Ar ddydd Sadwrn. 28ain o Dachwedd, mae’r
aelodau wedi trefnu bws i fynd i Gaerdydd am y diwrnod. Os hoffech
ddiwrnod yn Nghaerdydd, rhowch eich enwau i Angharad Rees, ysgrifenyddes
y clwb (0779-5164139) gynted ag sy’n bosib.
Hen Eitemau Newyddion |