Mae pawb yn siarad amdano, ond beth yw
Seren Bethlehem? Ble allwch chi ddod o hyd i wybodaeth
amdano? Dyma rai atebion i’ch helpu. Edrychwch ar
ein gwefan, ymunwch â’r grwp ‘FACEBOOK’
ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf neu chwiliwch am bosteri
a thaflenni yn eich tref chi.

Beth yw Seren Bethlehem?
Rhaglen deledu gyffrous yw Seren Bethlehem.
Mae Heledd Cynwal, y gyflwynwraig deledu adnabyddus, yn
dilyn grwp o bobl o Ddyffryn Tywi wrth iddynt ysgrifennu,
cynhyrchu, llwyfannu, cyfarwyddo, hyrwyddo a pherfformio
Sioe Nadolig fyw yn seiliedig ar bentref bychan Bethlehem
yn Sir Gaerfyrddin mewn amser byr iawn. Dilynwch y criw
yn wythnosol wrth i bethau fynd yn dda, a mynd go chwith!
Sut alla i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Seren
Bethlehem?
Mae’r rhaglen yn cael ei hyrwyddo ar S4C ac ar orsafoedd
radio ar hyd a lled Cymru. Radio Sir Gâr yw un o’n
noddwyr a bydd yn darlledu’r prif storïau a’r
wybodaeth ddiweddaraf bob wythnos yn fyw ar y radio ac
ar ei wefan. Mae gan Seren Bethlehem grwp
Facebook hefyd - ymunwch â’r grwp a rhannwch
eich syniadau.
Sut alla i fod yn rhan o Seren
Bethlehem?
Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi fod yn rhan ohono!
Pryd alla i wylio Seren Bethlehem?
Bob nos Sul am 7.30pm, yn dechrau ar
Dachwedd 15fed am 7 wythnos ar S4C.
Pwy sy’n cymryd rhan yn Seren Bethlehem?
Wynebau lleol y byddwch yn eu hadnabod - aelodau o Glybiau
Ffermwyr Ifainc yr ardal, corau lleol, disgyblion ysgolion
cynradd ac uwchradd, siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Bydd
enwau’r holl gast i’w gweld yn y Rhaglen Swfenîr.
Ble fydd y cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu?
Yn Llety Cadog (hen sied y co-op yn Llangadog) drwy garedigrwydd
Mr. Hefin Roberts. Mi fydd y sioe fyw ar Rhagfyr y 13ddeg
ac mi fydd yn cael ei ddarlledu ar Noswyl Nadolig.
Pryd alla i brynu tocynnau?
Cyn bo hir! Bydd tocynnau ar werth unwaith
bod rhif y gynulleidfa wedi’i benderfynu. Cadwch
lygad am fwy o wybodaeth yn eich Swyddfeydd Post lleol:
Llanymddyfri, Llangadog a Bethlehem, ac yn siop Igam Ogam,
Llandeilo. Bydd tocynnau ar werth cyn gynted â'u
bod yn barod.
Methu dod o hyd i ateb? Mae’r prosiect yn symud
yn gyflym iawn ac nid yw’r atebion i gyd gennym
eto! Rhowch eich cwestiynau ar y safle
Facebook ac fe wnawn ni ein gorau i ddod o hyd i ateb
i chi cyn gynted â phosib.