![]() |
|
Bydd gwr o Langadog yn teithio i Batagonia'r flwyddyn nesaf gan ail ymweld â'r ardal ble dysgodd Gymraeg 37 o flynyddoedd yn ôl. Bydd yr antur yn rhan o daith Rhobert ap Steffan i godi arian at Mencap Cymru ac er cof ei arwr, y diweddar Gwynfor Evans. Mae Rhobert yn bwriadu ymuno a thaith gerdded y naturiaethwr enwog Iolo Williams trwy fynyddoedd yr Andes deheuol ym mis Hydref 2008. Bydd yn golygu cerdded tua 12 milltir y dydd am wythnos trwy dir garw iawn ym mharc cenedlaethol Los Glaciers yn ne Ariannin. Nod Rhobert fydd codi o leiaf £3,500 tuag at Mencap Cymru, elusen sy'n helpu gwneud gwahaniaeth i fywydau oedolion a phlant ag anableddau dysgu. Wedyn, mae Rhobert yn bwriadu aros yn Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia i ymchwilio hanes llwyth y Teheuelche, yr Indiaid brodorol talaith Chubut. "Yno mi fydda i'n rhyw fath o lysgennad answyddogol i Gymru ac yn ceisio helpu i gryfhau'r cysylltiad rhwng Y Wladfa a'r Hen Wlad" meddai. "Mi dreuliais flwyddyn yn Y Wladfa er mwyn dysgu Cymraeg. Bûm yn gweithio mewn melin goed ger Trelew ac ar 'estancia' (fferm) fawr ger Trefelin ar droed yr Andes yng Nghwm Hyfryd. Roeddwn i'n siarad Cymraeg ymhen ychydig fisoedd - doedd dim dewis gyda fi gan nad oedd fawr neb yn siarad Saesneg!" "Rwy'n gwneud yr ymdrech yma er mwyn cefnogi Mencap, sy'n rhoi cefnogaeth aruthrol i bobl gydag anawsterau meddyliol ond sy'n wirioneddol angen mwy o adnoddau ariannol. Ac rwyf hefyd yn gwneud y daith er cof am Gwynfor Evans - dyn a gafodd y dylanwad mwyaf ar fy mywyd i fel Cymro ac, yn fy marn i, ar wleidyddiaeth gyfoes Cymru a dyfodol ein hiaith". I noddi'r ymgyrch ewch i'r wefan: www.justgiving.com/Rhobert neu ffoniwch Rhobert ar 01550-777816.
Mae Rhobert yn ysgrifennu: "Mae ariannu yn mynd yn dda iawn ar y foment. Yn ystod Chwefror rhois i ddarlith i Glwb Rotari Cydweli a ches i rodd £500 oddi wrth David Gravell, rheolwr Renault Cydweli. Mae'i deulu wedi cael cysylltiadau hir a Patagonia a fuodd ei dad yna 13 gwaith! Hefyd ces i £500 oddi wrth HSBC a gyd-ariannwyd rhost mochyn cynhaliwyd ar fy rhan yng Nghilycwm. Dyma fi gyda Ceridwen Lewis, rheolwr cangen Llandeilo. Derbyniais i £100 oddi wrth Tires Llanymddyfri ac addewid £500 ychwanegol oddi wrth gontractwyr lleol Tir na nOg. Rwy'n bwriadu hyfforddi mynyddig o ddifri yn ystod Ebrill pan fydd y 40 sy'n mynd ar y daith yn cael ein cyfarfod gyntaf." Cysylltiad i flog Mencap Cymru Rhobert - www.rhobertmencap.blogspot.com
Fel rhan o brosiect Barclays yn y Cymuned, mae Banc Barclays wedi noddi Rhobert am ei daith dros yr Andes Ddeheuol gyda'r naturiaethwr Iolo Williams yn yr Hydref. Fe godwyd £1,650 dros Mencap Cymru trwy fore coffi, arwerthiant a raffl ac erbyn hyn Rhobert, gwelir yma gyda Susan Augustus (Banc Barclays Llandeilo/Llanymddyfri), wedi codi braidd £6,000 ar gyfer yr elusen.
1af Hydref
Heddiw dringais i Gader Idris gyda Marilyn (fy ngwraig) a Sioned (fy merch). Dw'i ddim yn bwriadu gwneud llawer mwy o ymarfer cyn gadael i Batagonia ar Hydref 16eg. Rwy'n eitha’ ffit nawr ac yn barod am yr her. Hoffwn i ddweud diolch i bawb sy wedi bod mor gefnogol dros y flwyddyn ddiwethaf: fy ffrindiau, teulu, cymdogion, banciau, busnesau a mudiadau. Ar ôl fy noson codi arian olaf ar Ddydd Glyndwr (Medi 16eg) , er engraifft, derbyniais i £260 oddi wrth Merched y Wawr, cangen Llangadog. Diolch o galon iddyn nhw a phawb arall sy wedi cyfannu at achos teilwng hwn; cofiwch mai dal amser i helpu Mencap naill ai ar lein neu trwy anfon siec ataf i. Dymuniadau gorau,
Neges oddiwrth Rhobert 5.12.08 Annwyl Noddwr, Wel, dwi wedi gwneud e ! Rwy'n ôl gartre nawr ar ôl cwblhau'r trec a threulio amser bendigedig yn Y Wladfa Gymreig. 'Roedd y daith trwy'r Andes yn galed iawn - gwynt, cesair, eira, glaw ac yn achlysurol heulwen hyd yn oed - gweler y lluniau ! Ond, diolch i chi, dwi wedi codi £8,106 dros Mencap Cymru ac mae'r gronfa dal ar agor tan ddiwedd y flwyddyn os hoffech chi ychwanegu ato. Gwyliwch y sioe tryloywderau Taith Patagonia yn Swyddfa'r Post, Llangadog. Hwyl fawr,
| |||||||||||||||||||||||