Camerau, Goleuadau, co ni'n mynd!
Ennillwch docynnau VIP i Sioe Seren Bethlehem
Mae Seren Bethlehem yn cynnal cystadleuaeth i ennill dau
bar o docynnau VIP i'r sioe fyw ar Rhagfyr y 13ddeg yn
Llangadog. Rydym yn paratoi rhaglen o sylwedd gogyfer
a'r noswaith ac rydym am iddo adlewyrchu'r ardal odidog
yr ydym yn byw ynddi. Felly, gofynion y gystadleuaeth
yw tynnu lluniau sy'n portreadu'r ardal ar ei orau. Defnyddiwch
eich ffon symudol neu gamera a tynnwch luniau.
Fel mae cystadlu? Yn rhwydd iawn - danfonwch eich lluniau
o olygfeydd, pobl neu lefydd i'r grwp Facebook
Seren Bethlehem gyda theitl, nodyn o leoliad y llun
a'ch enw (os ydych dan 18 nodwch eich oedran). Mi fydd
dau feirniad yn dewis dau enillydd. Mi fydd y buddugol
ynghyd a'r goreuon yn cael eu cynnwys yn y rhaglen ar
y wefan ac ar Facebook. Does dim llawer o amser felly
tynnwch ar eich cyfer ac ewch i Grwp
Facebook Seren Bethlehem i weld y cynigion ac ychwanegwch
eich sylwadau.
Ewch ati nawr!