Sioe Arddwriaethol Flynyddol Clwb Garddio Llangadog 2007

Agorodd y drysau ar gyfer Sioe Arddwriaethol Flynyddol Clwb Garddio Llangadog ar nos Fercher, 29ain o fis Awst, pan lanwodd y Ganolfan Gymdeithasol yn gyflym iawn â chefnogwyr ffyddlon. Er bod nifer y cynnyrch a ddangoswyd yn llai na’r arfer, nodwyd gan y beirniaid bod y cynnyrch cystal â’r hyn a welwyd mewn mannau eraill, yn ystod blwyddyn o dywydd cyfnewidiol gyda chyfnod poeth a hir ym mis Ebrill a ddilynwyd gan wythnosau o law.

Diolchodd y Cadeirydd, Mrs Barbara Dodd, i bawb am ddod. Cydnabyddwyd cyfraniad a sylwadau’r beiriniaid, diolchwyd i aelodau’r pwyllgor am yr holl waith a gyflawnir wrth lwyfannu sioe debyg ac i’r aelodau am ddarparu’r cynnyrch sy’n caniatau cynnal y sioe.

Crybwyllwyd yn arbennig y gystadleuaeth a drefnwyd ar gyfer Ysgol Llangadog. Diolchwyd i’r plant am ddarparu 102 o gynigion o blatiau papur a beintiwyd â’u hoff flodyn arnynt, roedd y cyfan yn gwneud arddangosfa hyfryd a lliwgar gan yr arddangoswyd pob plât ar y llwyfan i’w beirniadu gan Mrs Moira Davies,
tasg bleserus ond hir ! Diolchwyd hefyd i aelodau’r staff am eu cyfraniad i’r ymdrech lewyrchus dda hon.

Cyflwyno’r Cwpanau
Yn ogystal â derbyn cwpanau, sy’n rhaid eu dychwelyd bob blwyddyn, cyflwynwyd talebau a roddwyd gan
Feithrinfeydd Farmyard, Llandeilo ac a werthfawrogwyd yn fawr iawn i enillwyr yr amrywiol adrannau i brynu planhigion o’u dewis personol.

Adran Llysiau :- Beirniad - Ian Bruce, Llangadog. 1af :- Megan Jones ; 2ail :- Nancy Davies ; 3ydd :-
Ydwenna Davies.

Adran Ffrwythau :- Beirniad - Roger James, Llanymddyfri. 1af :- Helen Williams ; 2ail :- Nancy Davies ;
3ydd :- May Hughes.

Adran Trefnu Blodau :- Beirniad :- Mrs Moira Davies, Cilycwm ; 1af :- Ydwenna Davies ;
2ail :- Betty Davies a Megan Jones.

Llongyfarchiadau i Mrs Megan Jones, Bryn Iago , Llangadog, a oedd y Prif Enillydd am 2007 gyda 105 marc.

Canlyniadau’r Gystadleuaeth ar gyfer Ysgol Llangadog.
Dosbarth 1 - Glain Evans ; Dosbarth 2 - Cara Peel ; Dosbarth 3 - Megan Thomas ;
Dosbarth 4 - Victoria Hamer ; Dosbarth 5 - Ebbany Cusano ; Dosbarth 6 - Gillie Rowland.


Mr Ellis Davies, sef yr arwerthwr ar gyfer y noson, a fu’n cynnal yr arwerthiant hir ddisgwyliedig o gynnyrch
ffres ymhlith llawer o hwyl a sbri.. Dangoswyd ein gwerthfawrogiad i Ellis am yr hwyl a’r miri a geir ganddo yn y rhan hon o’r noson a derbyniodd ein diolch diffuant am ei ymdrechion personol dros y blynyddoedd, a fu’n gymorth i godi arian tuag at y Clwb

Cynhaliwyd y Raffl fawr i ddod â’r Sioe Flynyddol i’w therfyn.

Gwen Evans - Ysgrifenyddes. (Rhif ffôn :- 01550 - 777813)